Croeso

Datblygwyd Canolfan Edward Richard yn bennaf ar gyfer y gymuned leol ym mhentref hyfryd Ystrad Meurig, 13 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth. Mae trawsnewidiad cyfoes o’r adeilad hanesyddol gwreiddiol wedi creu lleoliad o safon i gynnal amryw weithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol, yn ogystal â chyfarfodydd a chynadleddau bach.

Llogwch Ganolfan Edward Richard wrth yr awr, wrth y dydd neu fesul wythnos.

Croesawn ymholiadau ynglyn â chynnal grwpiau, neu ddosbarthiadau, neu ddigwyddiadau arbennig.

Mae'r adeilad wedi ei gymhwyso ar gyfer:

  • Cyfarfoddydd mawr a bach  
  • Seminarau hyfforddi 
  • Cyngherddau 
  • Dosbarthiadau addysgol  
  • Priodasau a digwyddiadau cymdeithasol
  • Penwythnosau astronomeg a phartïon gwylio'r sêr  
  • Canolfan astudio archaeoleg, astronomeg, botaneg a hanes ac i wylio adar