Grwpiau Lleol
Sefydliad y Merched (WI) Swyddffynnon
Sefydlwyd WI Swyddffynnon ym 1953 ac mae wedi bod yn sefydliad bach gweithgar byth er hyny. Rydym yn cwrdd yn y Ganolfan dydd Llun cyntaf bob mis, ag eithrio mis Awst.
Ceisiwn ddarparu hwyl a chyfeillgarwch drwy gyfrwng amrywiol weithgareddau a digwyddiadau Cymunedol, fel y gwelir yn ein rhaglen, isod - gyda lluniaeth ysgafn, wrth gwrs.
Gall ein haelodau hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir gan y Ffederasiwn Sirol – er enghraifft cwis, helfa drysor, sesiynau crefft ac yn y blaen. Trafodir pryderon cymdeithasol pwysig yng nghyfarfodydd y Ffederasiwn Sirol ac yn ystod digwyddiadau arbennig eraill ac mae gan bob sefydliad gyfle i bleidleisio ar y fath bynciau yn ystod cyfarfod blynyddol y Ffederasiwn Genedlaethol.
Caiff pob aelod gopi o gylchgrawn y WI wyth gwaith y flwyddyn, ac mae’r rhain yn gynwysiedig yn y dâl aelodaeth blynyddol o £45.
Rhaglen 2025-2026
6 Ionawr 2.00pm - Prynhawn yr Aelodau.
3 Chwefror 2.00pm - Crefft - Sian Lloyd John
1 Mawrth 12.30pm - Cawl Dydd Gwyl Ddewi - Canolfan Edward Richard
3 Mawrth 2.00pm -
7 Ebrill 2.00pm -
12 Mai 2.00pm -
2 Mehefin 2.00pm -
7 Gorffennaf 2.00pm - Crefft - Lesley Jones
19 Awst - Amgueddfa Wehyddu'r Drenewydd
1 Medi 2.00pm -
6 Hydref 2.00pm -
3 Tachwedd 2.00pm - Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
1 Rhagfyr 2.00pm Crefft Nadolig
8 Rhagfyr 1.00pm Cinio Nadolig.
2026
5 Ionawr 2.00pm - Prynhawn yr Aelodau.
Mae croeso bob amser i rai nad ydynt yn aelodau. Gallwch ymuno â ni am ddau gyfarfod cyn ymaelodi.
Newydd symud i'r ardal?...... byddem yn hynod falch i'ch croesawu.
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch wiswyddffynnon@gmail.com

GRWP CREFFT CANOLFAN EDWARD RICHARD
RHAGLEN 2025/2026
8 Mawrth -
12 Ebrill -
10 Mai -
14 Mehefin -
12 Gorffennaf -
13 Medi -
11 Hydref -
8 Tachwedd -
13 Rhagfyr -
10 Ionawr -
14 Chwefror -
Sesiynau 2 awr yn dechrau am 10.30 am. Cynhwysir te/coffi a bisgedi.
Ffi Aelodaeth Flynyddol £12.50 yn daladwy ym mis Mawrth + £1 pob sesiwn a fynychir.
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch craftgroup256@gmail.com
Dyma rai enghreifftiau o waith y Grwp Crefft:

Printers in the Sticks
Grwp bach o artistiaid o Ganolfan Edward Richard Ystrad Meurig ydym ni sy’n mwynhau arbrofi a phob math o greu printiau – o brintiau leino i lithograffau a phob math o ddulliau eraill.

www.facebook.com - Printers in the Sticks